Jane Hutt
Mae’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, wedi dweud ei bod hi eisiau gweld rhagor o ferched yn y prif swyddi yng Nghymru.
Addawodd Llafur yn eu maniffesto y byddwn nhw’n sicrhau fod 40% o’r rheini sy’n cael eu penodi i gyrff cyhoeddus yn y wlad yn ferched.
Ers yr etholiad ar 5 Mai mae’r pleidiau eraill wedi rhoi pwysau ar y Llywodraeth i egluro sut y maen nhw’n bwriadu cyflawni hynny.
Wrth siarad yn y Senedd dywedodd Jane Hutt mai cydraddoldeb i ferched oedd un o’i blaenoriaethau ond ei bod hi’n ymwybodol y bydd yn dasg anodd.
“Gadewch i mi wneud dau bwynt i ddechrau – dim ond dwy brif weithredwraig sydd gan y 50 cwmni Cymreig mwyaf blaenllaw,” meddai.
“Dim ond un o’r 22 o arweinwyr cynghorau Cymru sydd yn ferch. Felly mae yna ffordd bell i fynd eto.”
Chwarae Teg
Roedd adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dangos cyn lleied o rym a dylanwad sydd gan ferched yng Nghymru.
Dim ond 26% o brifathrawon Cymru sy’n ferched, er bod tua 75% o athrawon yn ferched, meddai’r adroddiad.
Dywedodd Kate Bennett, cyfarwyddwr cenedlaethol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, fod yr adroddiad yn dangos nad oes gan ferched lais “wrth wneud penderfyniadau”.
Dywedodd elusen merched Chwarae Teg eu bod nhw’n hapus â tharged 40% Llywodraeth Cymru.
“Er gwaetha’r ffaith fod merched yn y mwyafrif mewn rhai cyrff cyhoeddus, does yna ddim digon ohonyn nhw mewn swyddi uwch,” meddai’r prif weithredwr Katy Chamberlain.
“Rydyn ni’n croesawu addewid y Llywodraeth i gynnal ymchwil gwerthfawr o’r rhwystrau sy’n wynebu merched a’r ffordd orau o’u goresgyn.
“Ond mae yna lawer iawn o waith i’w wneud cyn y byddwn ni’n fodlon bod merched yn cyrraedd y brig ym myd busnes a gwleidyddiaeth.”