Southern Cross (Llun o wefan y cwmni)
Mae gobaith y bydd un o brif berchnogion cartrefi gofal Cymru’n cael ei achub yn ystod y dydd heddiw.

Fe fydd cynrychiolwyr o gwmni cartrefi Southern Cross yn cwrdd gyda’i landlordiaid, swyddogion llywodraeth a buddsoddwyr i drafod yr argyfwng sydd wedi peryglu’i fodolaeth.

Mae  gan y cwmni 34 o gartrefi yn ne Cymru gyda mwy na 1,500 o drigolion – hynny o gyfanswm o 752 o gartrefi a 31,000 o drigolion trwy wledydd Prydain.

Mae’n gorfod talu £202 miliwn y flwyddyn mewn rhenti ond, yn ôl y cwmni, mae toriadau gwario cyhoeddus wedi effeithio ar ei incwm.

Ddydd Gwener, roedden nhw’n pwysleisio nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud eto i gau dim o’u cartrefi.

Landlordiaid yn cymryd cartrefi

Y disgwyl yw y bydd y landlordiaid yn derbyn rhenti is ond hefyd yn cymryd rhai o’r cartrefi i’w gofal eu hunain.

Mae Southern Cross, sydd â 40,000 o staff, yn dweud eu bod eisiau i’r banciau a’r llywodraeth helpu hefyd – mae Barclays a Lloyds ymhlith y prif fenthychwyr ac mae gan y cwmni ddyled o tua £20 miliwn i’r adran dreth incwm.

Dyw hi ddim yn glir eto beth fydd dyfodol y cartrefi yng Nghymru.