Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi ei benodiadau cyntaf ers ei sefydlu ym mis Mawrth eleni.

Bydd y penodiadau sydd wedi eu noddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.

Bydd y darlithwyr newydd yn cychwyn ym mis Medi 2011 am gyfnod o 5 mlynedd.

“Mae’r penodiadau hyn yn arwydd pendant o’n hymrwymiad ni fel sefydliad i ddatblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac mae cefnogaeth arbennig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr,” maddi’r Athro John Hughes, Is-ganghellor, Prifysgol Bangor.

Cerddoriaeth ffilmiau

Un o’r rheini sydd wedi eu penodi yw Dr. Owain Llwyd, o Lyndyfrdwy ger Corwen. Mae’n arbenigo ar gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer modiwl ffilm a fydd ar gael i fyfyrwyr cerddoriaeth o hyn ymlaen. Daw i’r Brifysgol wedi cyfnod o brofiad yn gweithio yn gyfansoddwr yn y diwydiant ffilmiau yn Llundain.

Yn dilyn cyhoeddi casgliad o gryno ddisgiau o gerddoriaeth llyfrgell dan adain cwmni Boosey and Hawkes, clywir ei weithiau ar raglenni fel The X-Factor (ym Mhrydain ac yn Ewrop) a Top Gear ac ar sawl hysbyseb deledu.

Cyn hynny yr oedd yn ddeiliad ysgoloriaeth ymchwil o dan nawdd y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, sydd bellach wedi ei hymgorffori o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cerddoriaeth boblogaidd

Cerddoriaeth boblogaidd Gymreig yw arbenigedd Dr. Craig Owen Jones ac fel rhan o’i waith yn Gymrawd Dysgu (cymrodoriaeth a noddwyd gan y Ganolfan Addysg Uwch) yn yr Ysgol Cerddoriaeth, sefydlodd Archif Bop Cymru sy’n adnodd ar gyfer ymchwilwyr ym Mangor a thu hwnt.

Ar hyn o bryd, mae’n cwblhau cyfrol ar fyd canu pop ac mae’n awyddus iawn i glywed gan berfformwyr a chyn-berfformwyr yn y maes. Cyhoeddodd eisoes nifer o erthyglau gan gynnwys ymdriniaeth â’r traddodiad yng Nghymru yn y 1960au a’r 70au.

Rhagor i ddilyn…

Dywedodd y Coleg Cymraeg eu bod nhw’n bwriadu datgelu cyfres o benodiadau eraill ym Mhrifysgol Bangor yn ystod yr wythnosau nesaf.

Fe fyddwn nhw’n cynnwys penodiadau yn yr Ysgolion Cemeg, Seicoleg, Ieithoedd Modern, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Cymdeithas – ycyfan wedi’u hariannu gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Mae’r Coleg yn croesawu’r penodiadau yma yn fawr iawn, nid yn unig am mai dyma’r cyntaf i’w cadarnhau o dan nawdd cynllun staffio’r Coleg, ond hefyd yn sgil y ffaith i Dr Owain Llwyd a Dr Craig Owen Jones fod yn gysylltiedig â chynlluniau i feithrin academyddion cymwys i’w penodi i swyddi darlithio,” meddai Dr. Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Yr ydym yn llongyfarch Owain a Craig ar eu  penodiadau, gan nodi fod cynlluniau ar y gweill i alluogi myfyrwyr mewn prifysgolion eraill i ddilyn modiwlau a fydd yn cael eu cynnig ganddynt.”