Ieuan Wyn Jones
Dyw arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ddim yn edifar am golli agoriad swyddogol y Cynulliad newydd a’r dyddiau cynta’ o waith.

Wrth siarad am y tro cynta’ ers i’r helynt godi tros ei absenoldeb, fe ddywedodd ei fod wedi trefnu gwyliau cyn cael clywed pryd yr oedd yr agoriad ac wedi penderfynu “rhoi y teulu yn gyntaf”.

Fe gafodd ei feirniadu’n hallt yr wythnos ddiwetha’ gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac mae rhai o aelodau Plaid Cymru wedi awgrymu fod hyn yn rhoi pwysau arno i ymddeol yn gynt yn hytrach na hwyrach.

Roedd ei absenoldeb wedi cynnig ateb hawdd i Carwyn Jones pan oedd Plaid Cymru’n ei feirniadu am laesu dwylo ar ddechrau’r Cynulliad newydd.

Geiriau Ieuan Wyn Jones

“Dw i ddim yn difaru achos unwaith wnes i ddeall bod yna clash, mi wnes i wneud trefniade i bobol gael gwybod,” meddai wrth Golwg360.

“Mi wnes i sicrhau bod y blaid yn cael ei chynrychioli yn yr agoriad a’r digwyddiadau oedd yn dilyn hynny, ac o’n i’n teimlo bod hynny yn briodol ac yn iawn ar y pryd.

“Mi fydde unrhyw un sy’n fy adnabod i’n gwbod mod i ddim eisio creu embaras i neb. Ond o’n i wedi gwneud y trefniade yn flaenorol ac o’n i yn teimlo bod hi’n bwysig fy mod i am unwaith, o leia mewn bywyd  cyhoeddus, yn rhoi y teulu yn gyntaf a dyna wnes i.”