Ben a Catherine Mullany (O wefan Ymddiriedolaeth Mullany)
Fe allai o leiaf un o’r tri swyddog diogelwch yn y gwesty yn Antigua fod yn cysgu pan gafodd cwpl o Gymru eu saethu’n farw yno ar eu mis mêl.
Fe ddaeth hyn i’r amlwg mewn tystiolaeth a gafodd ei gyflwyno yn achos y ddau ddyn sydd wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth Catherine a Benjamin Mullany o gwm Tawe.
Yn ei dystiolaeth, dywedodd cyfaddefodd y swyddog diogelwch Ian Newell nad yw’n cofio llawer am y noson. Dywedodd wrth aelodau’r rheithgor ei fod yn cysgu yn ystod ei shifft yn y Cocos Hotel ac na chlywodd unrhyw ergydion o ddryll.
Dywedodd na sylweddolodd fod helynt tan i westai ddod ato i ofyn am help, ond gwrthododd gadarnhau’n bendant iddo gysgu trwy’r llofruddiaeth.
“Weithiau rydych chi’n gweithio, rydych chi’n teimlo’n gysglyd ac yn cymryd nap,” meddai wrth y rheithgor, gan ychwanegu y byddai’n cael y sac petai’n cael ei ddal yn cysgu wrth ei waith.
Gweiddi
Dywedodd mai’r cyfan y mae’n ei gofio yw’r cythrwfl ar ôl y saethu, a bod gwesteion wedi dod ato’n gweiddi am help. Fe aeth draw i’r bwthyn lle’r oedd y cwpl yn aros a rhedodd am help ar ôl gweld beth oedd wedi digwydd.
Roedd swyddog diogelwch arall, a oedd wrth fynedfa’r gwesty, eisoes wedi dweud wrth y llys nad oedd clo yng ngiât y gwesty, ac mai ei gydweithiwr Ian Newell a ddywedodd wrtho am y llofruddiaethau.
Cafodd Catherine a Ben Mullany eu saethu yn eu bwthyn gwyliau ar ddiwrnod olaf eu pythefnos o fis mêl ym mis Gorffennaf 2008. Roedd y ddau’n 31 oed.
Mae’r ddau ddyn sydd wedi cael eu cyhuddo o’u llofruddio, Avie Howell a Kaniel Martin, wedi pledio’n ddi-euog. Mae disgwyl y byddan nhw’n wynebu treial arall yn y dyfodol ar gyhuddiad o ddwy lofruddiaeth arall ar yr ynys.