Mark Isherwood
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gynnal arolwg o’r gwaith maen ei wneud i daclo tlodi ymysg plant Cymru.
Dyna’r alwad gan yr AC Mark Isherwood yn y Cynulliad ddoe, wrth iddo ddatgelu bod tlodi plant wedi cynyddu dros bedair mlynedd yn olynol yng Nghymru cyn i’r dirwasgiad economaidd gychwyn.
Yn ôl Gweinidog Cymunedau a Thai yr Wrthblaid yn y Cynulliad, mae’r Llywodraeth dan arweiniad y Blaid Lafur wedi gwario biliynau yn ceisio adfywio ardaloedd tlawd, ond dyw’r arian ddim yn cael ei dargedu lle mae’r gwir angen.
“Ryda ni wedi cael y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) yn 2010, a rydym yn gefnogwyr brwd o’r dymuniadau ynddo,” meddai Mark Isherwood wrth y Prif Weinidog Carwyn Jones ar lawr y siambr.
“Fodd bynnag, pryd fydd eich Llywodraeth yn cyhoeddi gwerthusiad o’r prosiectau peilot sy’n cael eu rhedeg gan bump o elusennau, gan gynnwys Barnardos, wnaeth arwain ar lawnsio’r cynllun sector gyhoeddus hwn?”
Mi wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones ddweud bod Strategaeth Tlodi Plant yn cael ei weithredu, ac y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau gyda’i gynllun atal tlodi ar ôl i’r cyfnod Cymunedau’n Gyntaf presennol ddod i ben y flwyddyn nesaf.