Mae cwmni bancio Lloyds Group wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu torri 300 swydd, gan gymryd y cyfanswm i 27,500 mewn dwy flynedd.
Mae undeb Unite wedi beirniadu’r diswyddiadau gan ddweud y bydd yn effeithio ar swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr a fydd yn cau ym mis Mawrth 2012.
“Fe fydd y penderfyniad yn gwneud niwed mawr i’r gweithlu lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr,” meddai David Fleming o’r undeb.
“Pan agorodd y swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr roedd ymroddiad mawr i’r gymuned ac fe dderbyniodd y banc nawdd yn gysylltiedig â hynny.
“Mae cau’r swyddfa yn gam rhagrithiol yn dilyn sylwadau’r Prif Weithredwr newydd ei fod yn cefnogi cymunedau a chwsmeriaid y banc.
“Mae Unite yn gweithio â’r banc tyn y gobaith o symud swyddi i Gaerdydd, Casnewydd ac Abertawe.
“Ond ni fydd hynny yn lleihau’r poen i weithwyr sydd newydd gael gwybod bod eu gweithle yn cau i lawr.”
Mae cyfanswm o 27,500 o swyddi wedi cael mynd ers i Lloyds Group gael ei ffurfio ym mis Ionawr 2009.