Y crisial - anrheg Cymru i William a Kate
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins wedi dweud ei fod yn “annerbyniol” bod y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £2,800 ar y Briodas Frenhinol.
Cafodd manylion y gwariant eu datgelu o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth ar ôl cais gan yr ymgyrchydd iaith Hedd Gwynfor, ac mae’n dangos bod anrheg Tywysog William a Catherine Middleton wedi costio £900.
Roedd cost yr anrheg, darn o risial Cymreig, wedi ei rannu’n gyfartal rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal a hynny fe aeth dau gynrychiolydd o’r Cynulliad Cenedlaethol i’r briodas gan wario £879 ar deithio, llety a bwyd.
Roedd cyfanswm gwariant y Cynulliad Cenedlaethol yn dod at £1,329.
Yn ogystal â chyfrannu £450 tuag at yr anrheg roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwario £1,025 ychwanegol.
Daw cyfanswm y gwariant i £2,804 hyd yn hyn, ond bydd “cost ychwanegol” wrth gyflwyno cyfrol o negeseuon llongyfarch oddi wrth y cyhoedd yng Nghymru i’r Pâr Brenhinol yn ddiweddarach.
“Mae unrhyw wariant gan y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y Cynulliad ar aelod o’r teulu brenhinol yn annerbyniol,” meddai Bethan Jenkins.
“Yn fy marn i, nid wyf yn credu bod angen anfon anrheg i’r par priod. Dyle Llywodraeth y Cynulliad ddim bod yn gwario arian prin ar anrheg wrth ystyried yr holl doriadau sy’n cael eu gwneud.
“Roedd y Prif Weinidog yn mynd i’r briodas ac fe fyddai wedi bod yn iawn iddo roi anrheg gydag ei arian eu hun os oedd yn awyddus i wneud hynny.
“Doedd dim angen defnyddio’r pwrs cyhoeddus pan mae yna bobol allan yna’n poeni am dalu eu biliau.”
Costau rhaglenni’r BBC
Mae’r BBC wedi defnyddio eithriad dadleuol yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i osgoi datgelu pris raglenni’r Briodas Frenhinol.
Mae grŵp ymgyrchu Republic, a oedd wedi gwneud y cais am y wybodaeth, yn bwriadu apelio i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn erbyn penderfyniad y gorfforaeth.
Mae Republic yn honni bod dros 1,000 o weithwyr y BBC yn gweithio ar raglenni’r briodas – pum gwaith mwy o staff nag oedd gan Sky.
Mae’r BBC yn gallu gwrthod rhyddhau gwybodaeth sy’n gysylltiedig â ‘newyddiaduraeth, y celfyddydau a llenyddiaeth.’
“Yr unig gasgliad yw fod gan y BBC rywbeth i’w guddio,” meddai rheolwr ymgyrchoedd Republic, Graham Smith.
“Mae ‘na diddordeb cyhoeddus amlwg mewn gwybod faint o arian sydd wedi cael ei wario.”