Mae arolygiaeth hyfforddiant a dysgu Cymru wedi dweud nad yw ysgolion yn paratoi plant yn ddigon da ar gyfer trin arian ar ôl gadael ysgolion.

Yn ôl adroddiad gan Estyn dyw ysgolion Cymru ddim yn credu digon o gyfloed i fyfyrwyr roi eu sgiliau ariannol ar waith o fewn y maes llafur.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud fod diffyg adnoddau Cymraeg ar gyfer addysg ariannol.

O ganlyniad i hynny mae’n rhaid i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio adnoddau iaith Saesneg.

“Er bod myfyrwyr yn cael eu dysgu am arian a chyllid mewn rhai gwersi penodol, dyw’r rhan fwyaf o ysgolion ddim yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr roi eu sgiliau wrth drin arian ar waith mewn cyd-destunau gwahanol ar draws y maes llafur,” meddai’r Prif Archwilydd Ann Keane.

“Dylai ysgolion benodi arweinydd sydd â chyfrifoldeb dros gyd-drefnu hyfforddiant ar gyfer athrawon fel eu bod nhw’n gallu cynnal addysg ariannol y disgyblion ar draws y maes llafur.

“Y nod yw fod gan ddisgyblion ddealltwriaeth dda o faterion ariannol ac yn gallu rhoi beth y maen nhw wedi ei ddysgu ar waith yn y byd tu hwnt i waliau’r ysgol.”