Bethan Jenkins (Llun: Plaid Cymru
Mae un o’r ACau sy’n gwrthod mynd i agoriad brenhinol y Cynulliad wedi galw am ddeddf newydd ar gyfer y Cynulliad.

Yn ôl Bethan Jenkins, fe ddylai Cymru ddilyn esiampl Gogledd Iwerddon a chael gwared ar yr angen i ACau dyngu llw o ffyddlondeb i’r Frenhines.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales ei bod o blaid tyngu llw o ffyddlondeb i bobol Cymru yn lle hynny.

“Dw i ddim yn credu bod y teulu brenhinol yn cynrychioli’r hyn yr ydw i’n sefyll trosto fel dinesydd Cymreig,” meddai.

Fe alwodd hefyd am drafodaeth agored ar y pwnc wrth iddi hi a thri arall o ACau Plaid Cymru wrthod cymryd rhan yn y seremoni heddiw. Y lleill yw Leanne Wood, Lindsay Whittle a Llyr Huws Gruffydd.