Alun Ffred Jones
Mae’r cyn-Ysgrifennydd Treftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi dadlau y dylai dau ymgeisydd Cynulliad sydd wedi eu gwahardd gael cymryd eu seddi.

Cafodd yr ACau Aled Roberts a John Dixon eu gwahardd o’u seddi am eu bod nhw wedi parhau’n aelodau o gyrff cyhoeddus ar ôl sefyll ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, sy’n groes i’r gyfraith.

Roedd Aled Roberts o restr Gogledd Cymru yn aelod o Gomisiwn Prisiau Cymru a John Dixon o ranbarth Canol De Cymru yn aelod o Gyngor Gofal Cymru.

Mae disgwyl na fydd ACau y Blaid Lafur yn pledleisio o blaid eu caniatáu yn ôl i’r Cynulliad, ac y bydd Eluned Parrot ac Eleanor Burnham, y ddau yn ail ar y rhestrau rhanbarthol, yn cymryd eu lle.

Dywedodd Alun Ffred Jones nad oedd dim awgrym fod yn naill a’r llall wedi torri’r rheolau’n fwriadol na’u bod ar eu hennill yn bersonol.

Ychwanegodd y dylai’r Cynulliad ddefnyddio’i bŵer i ddatrys y mater mor fuan ag sy’n bosib.

‘Wedi torri’r rheolau’

“Yn dechnegol does dim dwywaith fod y ddau ymgeisydd wedi torri rheolau’r etholiad a’i bod yn iawn iddyn nhw gael eu gwahardd o’r Senedd,” meddai’r AC.

“Ond mae’n amlwg mai tramgwyddo’n ddamweiniol a wnaeth y ddau ac nad oedd ganddyn nhw ddim i’w ennill trwy beidio ag ymddiswyddo oddi ar sefydliadau nad oedd hawl i ymgeisyddion berthyn iddyn nhw adeg yr etholiad.

“Dydw i ddim wedi gweld na chlywed unrhyw beth sy’n awgrymu fod yna unrhyw fwriad i dorri rheolau’r etholiad.

“Mae gan y Cynulliad yr hawl i dderbyn y ddau ymgeisydd, ac mae’n annheg arnyn nhw a’u teuluoedd nad yw’r mater wedi ei ddatrys cyn hyn.

“Mae’n tynnu sylw’r Cynulliad yn ddiangen oddi ar bethau eraill. Fe ddylen ni fod yn trafod a datrys y mater cyn gynted ag sy’n bosib ac mae’n fy ngofidio ei fod wedi llusgo ymlaen cyhyd.”