Heddlu Dyfed Powys
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn am wybodaeth ar ôl dod o hyd i gar Angelika Dries-Jenkins yn Hwlffordd ychydig ddyddiau ar ôl iddi gael ei llofruddio.

Fe fyddai’r wraig o Arberth wedi dathlu ei phen-blwydd yn 67 oed ddoe; yn lle hynny, mae’r heddlu’n chwilio am ei llofrudd.

Fe ddaethpwyd o hyd i’w char Skoda chwech oed yn ardal St Thomas Green yn Hwlffordd ddydd Sadwrn.

Mae’n gyfuniad o liwiau siampên, aur a llwydfelyn a’r rhif cofrestru yw GP05LNY.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw’n dibynnu llawer ar gael gwybodaeth dda gan y gymuned yn ardal Arberth – roedd Angelika Dries-Jenkins wedi ei lladd ryw dro yr wythnos ddiwetha’ yn ei chartre’ yn ardal Providence Hill.