Catherine a Ben Mullany
Fe fydd dau ddyn yn wynebu llys heddiw wedi eu cyhuddo o ladd pâr priod o Gymru oedd ar eu mis mel ar Ynys Antigua yn y Caribi.

Cafodd Ben a Catherine Mullany, y ddau yn 31 oed, eu saethu ychydig dros bythefnos ar ôl diwrnod eu priodas.

Mae Avie Howell, 20 and Kaniel Martin, 23, wedi eu cyhuddo o lofruddio’r ddau.

Roedd Ben a Catherine Mullany o Bontardawe wedi bod yn aros yn y Cocos Hotel ar dde-orllewin yr ynys pan aeth o leiaf un saethwr i mewn i’w chalet wrth iddyn nhw gysgu.

Clywodd gymdogion Catherine Mullany yn galw am gymorth yn oriau man y bore 7 Gorffennaf, 2008. Roedd hefyd sgrechfeydd a sŵn dryll yn tanio.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu y bore hwnnw, roedd hi eisoes wedi marw o glwyf i’w phen ar ôl i’r ymosodwr ei saethu.

Dioddefodd Ben Mullany, o Ystalyfera, waedlif ar yr ymenydd ar ôl i fwled deithio drwy ei wddf ac i mewn i’w benglog.

Aethpwyd ag ef yn ôl i Ysbyty Treforys yn Abertawe ond fe fu farw wythnos ar ôl y saethu.

Cafodd ef a’i wraig eu claddu ar dir yr un capel lle’r oedden nhw wedi prodi tua mis ynghynt.

Cyhuddiadau eraill

Arestiwyd Avie Howell a Kaniel Martin ar ôl i dditectifs o Brydain gael eu hanfon i Antigua er mwyn helpu’r heddlu lleol â’u hymchwiliad.

Adeg y llofruddiaethau roedd y wasg leol wedi cynnwys adroddiadau am gyfres o ymosodiadau tebyg gan saethwyr oedd yn gwisgo masgiau.

Serch hynny, dyma oedd y tro cyntaf i deithwyr i’r ynys gael eu llofruddio ers 10 mlynedd.

Bron i dair mlynedd ers y llofruddiaethau, bydd Avie Howell a Kaniel Martin yn wynebu llys 10 milltir o’r gwesty yn Uchel Lys yr ynys.

Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o ladd tri pherson arall, y peiriannydd Tony Louisa, 43, y myfyriwr Rafique Kareem Harris, 24, a’r perchennog siop Woneta Anderson Walker, 43.

Dywedodd ewyrth Ben Mullany, Michael Meredith, yn gynharach yn y mis fod “y teulu yn teimlo ein bod ni wedi disgwyl yn rhy hir i’r mater gael ei ddatrys”.