Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Mae Prif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi galw am ‘gynnydd’ ym meysydd diwygio ariannol, cyfansoddiadol a pholisi, heddiw.

Cyfarfu Carwyn Jones, Alex Salmond a Peter Robinson yng Nghaeredin heddiw er mwyn trafod y ffordd ymlaen i’r gwledydd datganoledig.

Galwodd y tri ar Lywodraeth San Steffan i gydweithio â nhw wrth fynd i’r afael â materion gan gynnwys nawdd teg, rhagor o rymoedd ariannol a chyfansoddiadol, a newidiadau i’r system les, polisi egni ac Ystâd y Goron.

Rhyddhaodd yr arweinwyr ddatganiad ar y cyd yn amlinellu eu gobeithion at y dyfodol ar ôl cyfarfod am y tro cyntaf ers cael eu hail-ethol ddechrau’r mis.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal yng nghartref swyddogol Alex Salmond yng Nghaeredin.

Fe fuodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson, Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness a Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn cwrdd â Phrif Weinidog yr Alban, Alex Salmond.

“Rydyn ni bellach yn credu ei fod yn bryd gweld cynnydd ar y materion sydd o bwys i’r rheini sydd wedi ein hethol ni, gan gynnwys twf economaidd,” meddai’r datganiad.

“Rydyn ni’n galw ar y Prif Weinidog, David Cameron, i weithio gyda ni ar y materion rheini.”

‘Annheg’

Dywedodd Alex Salmond fod y tair gweinyddiaeth yn croesawu “parch” y Prif Weinidog, David Cameron, ers iddo gipio grym yn San Steffan.

“Mae’r tair gweinyddiaeth yn cefnogi ei gilydd. Dyw ein blaenoriaethau ni ddim yr un fath ond rydyn ni’n credu ei fod yn bwysig cefnogi ein gilydd er mwyn cwrdd â gofynion pobol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon,” meddai.

Dywedodd Carwyn Jones fod ganddyn nhw farn wahanol “ynglŷn â pha bwerau i fynd ar eu holau nhw, ond wedi dweud hynny mae’n bwysig ein bod ni’n adeiladu ar ein perthynas ac yn mynd i drafodaethau â Llywodraeth San Steffan gan ddisgwyl y gorau”.

Ychwanegodd ei fod ef a Peter Robinson wedi bod yn trafod system a fyddai yn caniatáu i’r llywodraethau gadw arian nad ydyn nhw wedi ei wario ar ddiwedd y flwyddyn.

“Mae’r arian yna wedi ei roi i Gymru a Gogledd Iwerddon gan Senedd San Steffan,” meddai.

“Mae’r nawdd wedi mynd yn ôl i Whitehall a dw i’n credu fod hynny’n annheg.”