Sepp Blatter
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi annog Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddilyn esiampl cymdeithasau’r Alban a Lloegr wrth alw am ohirio etholiad llywyddol Fifa.

Y llywydd presennol, Sepp Blatter, yw’r unig ymgeisydd hyd yn hyn ar ôl i’w ddarpar wrthwynebydd Mohamed Bin Hammam benderfynu peidio sefyll.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr heddiw eu bod nhw eisiau i Fifa oedi’r bleidlais a galw corff annibynnol i mewn er mwyn argymell “trefn lywodraethol well” yn Fifa.

Mae Cymdeithas Bêl-droed yr Alban wedi cefnogi eu galwad.

Dywedodd Alun Cairns, Aelod Seneddol Bro Morgannwg, ei fod wedi cynnal trafodaethau “adeiladol” â Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Allen ni ddim caniatáu i etholiad yr un llywydd fynd rhagddo tra bod y fath honiadau difrifol i’w hateb,” meddai.

“Rydw i wedi siarad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu edrych yn fanwl ar y mater, a dw i’n meddwl fod hynny’n ddigon teg.

“Ond mae angen i ni greu momentwm er mwyn gorfodi’r newidiadau sydd eu hangen o fewn Fifa.

“Fe ddylen ni gefnogi’r rheini sy’n galw am oedi etholiad llywydd Fifa.”

Mae ras lywyddol Fifa wedi ei lygru gan honiadau ynglŷn â chyfreithlondeb y broses o fidio am Gwpanau Byd 2018 a 2022.

Mae Mohamed Bin Hammam, Llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Asia, ac is-lywydd Fifa, Jack Warner, wedi eu gohirio dros dro gan bwyllgor moeseg Fifa.

Ychwanegodd Alun Cairns fod yr unig ymgeisydd, Sepp Blatter, wedi “bod wrth y llyw wrth i bethau fynd o chwith o fewn y corff llywodraethol”.

“Mae angen i bob corff ym Mhrydain sefyll ochr wrth ochr a galw am newidiadau i’r modd y mae Fifa yn cael ei redeg.

“Mae wedi bod yn wythnos wych i bêl-droed Cymru, wrth i Abertawe gael ei ddyrchafu, ac rydw i’n gobeithio y bydd ein corff llywodraethol yn gwneud y peth iawn a bydd hynny’n arwain at newid.”

Doedd neb o Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar gael i gynnig sylw.