Melinau gwynt
Mae ymgyrchydd o blaid rhagor o egni adnewyddadwy wedi ymosod ar ymgyrch Aelod Seneddol o Gymru i atal codi ffermydd gwynt yng nghanolbarth Cymru.
Yr wythnos diwethaf roedd yr AS Ceidwadol, Glyn Davies, wedi annerch torf o tua 1,000 o brotestwyr y tu allan i’r Senedd.
Dywedodd mai nod y cynlluniau i godi’r ffermydd gwynt Mhowys a Cheredigion yw “gwladychu ac ecsbloetio ein cenedl unwaith eto” a chymharodd y cynlluniau â “Tryweryn arall”.
Ond mynnodd y sylwebydd ar newid hinsawdd, George Monbiot, fod yr ymgyrchwyr yn erbyn y melinau gwynt wedi “dinistrio eu dadleuol drwy siarad nonsens”.
Dywedodd fod Glyn Davies wedi honni fod melinau gwynt Cymru yn cynhyrchu 19% yn unig o’u hallbwn posib.
“Mewn gwirionedd maen nhw’n cynhyrchu tua 26% o’u hallbwn posib,” meddai. “Oni ddylai Aelodau Seneddol orfod gwneud rhywfaint o waith ymchwil cyn agor eu cegau?
“Mae ymgyrchwyr yn erbyn egni gwynt hefyd yn dewis a dethol eu targedau. Mae’r Ymgyrch o Blaid Amddiffyn Cymru Wledig yn ffoli ar ffermydd gwynt ond yn dweud dim am y pyllau glo brig sy’n rhwygo de Cymru yn ddarnau.
“Does dim gair chwaith ynglŷn â dinistrio ecosystemau tir uchel Cymru drwy bori defaid. Mae pencampwyr cefn gwlad eisiau ei achub rhag un bygythiad yn unig.”
Peilonau
Serch hynny dywedodd ei fod yn cytuno â’r protestwyr y dylid gwrthwynebu adeiladu peilonau anferth i gario’r egni o ganolbarth Cymru i Loegr.
“Os oes angen llinellau pŵer newydd fe ddylen nhw fynd o dan y tir. Os nad ydyn nhw’n gallu mynd o dan y tir, ni ddylen nhw gael eu hadeiladu,” meddai.
”Os nad [ydi’r gwyrddion] yn erbyn peilonau yn martsio ar draws cefn gwlad, beth ydyn ni yn ei erbyn?”
“Mae hyn ar fin troi yn frwydr genedlaethol, a bydd gelynion y peilonau yn cael eu dyrchafu’n arwyr.
“Mae’r bobol orymdeithiodd yn erbyn y peilonau yng Nghymru’r wythnos diwethaf yn addo gweithredu’n uniongyrchol, ac yn ein hatgoffa ni am y brwydrau mawr yn erbyn y cronfeydd dŵr oedd yn cyflenwi Lloegr.
“Os nad ydyn ni’n gweithredu yn gyflym, fe fyddwn nhw’n ein rhoi ni mewn lle anodd.”