Ysbyty Glan Clwyd
Fe fydd bron £77 miliwn yn cael eu gwario ar ailddatblygu un o ysbytai mawr Cymru.

Fe gadarnhaodd y Llywodraeth y byddan nhw’n buddsoddi’r arian yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, lai na 40 mlynedd ers i’r ysbyty gael ei godi.

Fe fydd yr arian yn mynd i helpu’r adeilad gyrraedd y safonau diweddara’ o ran rheolau tân ac iechyd a diogelwch ac i grynhoi rhai gwasanaethau sydd ar wasgar tros y safle.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd newydd, Lesley Griffiths, mae’r buddsoddiad yn dangos bod y Llywodraeth yng Nghaerdydd yn benderfynol o gynnal gwario yn y Gwasanaeth Iechyd “er  gwaetha’ effaith y toriadau Prydeinig ar gyllid Cymru”.

Mae’r ysbyty eisoes wedi cael buddsoddiad o fwy na £7miliwn i gael gwared ar asbestos o’r adeilad a mwy na £5 miliwn arall ar theatrau newydd.