David Lesley Crapper
Mae dyn arall wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ger Maenan, Llanrwst, ddydd Gwener.
Ddoe daeth i’r amlwg fod pâr priod o Swydd Gaer wedi marw yn y fan a’r lle yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Meriva a Landrover Freelander ar yr A470 am 3.40pm.
Cyhoeddodd yr heddlu heddiw fod teithiwr yn y Landrover Freelander hefyd wedi marw ar ôl cael ei hedfan i Ysbyty Gwynedd.
Roedd John a Jean Gilleland, y ddau yn 76, yn gyrru i gyfeiriad Llanrwst pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad â’r Landrover Freelander, oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall.
Dioddefodd y ddau anafiadau marwol a dywedodd y gwasanaethau brys fod parafeddygon wedi eu cael nhw’n farw yn y fan a’r lle.
Fe fu farw David Lesley Crapper, 56 oed, o ardal Eglwysbach, yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddarach.
Mae gyrwyr benywaidd y Landrover Freelander hefyd yn yr ysbyty ond mewn cyflwr sefydlog.
Teyrnged
Mae teulu David Lesley Crapper wedi talu teyrnged iddo.
“Roedd Lesley yn fab i Elvira a’r diweddar Trevor Crapper ac yn frawd i Deryl a Sylvia,” medden nhw.
“Roedd Les Min-afon, fel y gelwir ef yn lleol, yn dipyn o gymeriad ac yn adnabyddus yn Nyffryn Conwy.
“Roedd yn aelod o’r tîm cymunedol yn Rhyd Y Creuau yn Llanrwst. Roedd wrth ei fodd â cherddoriaeth ac yn cymryd rhan mewn sawl corff gwirfoddol.
“Fe fydd pawb yn gweld ei eisiau ac ni fydd o fyth yn cael ei anghofio.”
Mae’r heddlu wedi galw ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu 0845 6071001.