Cafodd dwy ferch ifanc oedd wedi eu dal gan y llanw oddi ar arfordir Prestatyn, yn Sir y Fflint, eu hachub gan wylwyr y glannau heddiw.

Cafodd gwylwyr y glannau Caergybi wybod fod y merched 12 oed yn gaeth ar greigiau ger Canolfan Nova y dref glan mor.

Roedd gwylwyr y glannau ar y traeth yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd yn ceisio nofio allan i’w hachub nhw.

Cafodd y bad achub ei lansio pum munud ar ôl iddyn nhw dderbyn y newyddion, ac fe gyrhaeddodd Prestatyn chwe munud yn ddiweddarach.

Erbyn i’r bad achub gyrraedd, am 12.15pm, roedd un ferch wedi cyrraedd y traeth ond roedd y ferch arall yn dal ar y creigiau.

Roedd hi’n dioddef o hypothermia a nifer o fan doriadau ar ei choesau ar ôl dringo ar y creigiau.

Aethpwyd a hi at y traeth ble’r oedd ambiwlans yn disgwyl i fynd â hi i’r ysbyty.