Mae dau berson wedi marw a dau arall wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 ym Maenan, ger Llanrwst.

Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans eu galw am 3.41pm ddoe, meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd y ddau fu farw o Swydd Gaer, ac yn gyrru  Vauxhall Meriva i gyfeiriad Llanrwst. Fe fu farw’r ddau yn y fan a’r lle.

Cafodd dyn a dynes sy’n byw yn lleol, oedd yn gyrru Land Rover Freelander yn y cyfeiriad arall, eu hanafu’n ddifrifol yn y gwrthdrawiad.

Aethpwyd ag un ohonyn nhw i Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd.

Dylai unrhyw un a welodd y ddamwain gysylltu â’r heddlu ar 101.