Mae ymgyrchydd iaith oedd yn bresennol yng nghyfarfod llawn Cyngor Sir Ddinbych wnaeth basio cynllun tai dadleuol i dreblu maint pentref Bodelwyddan heddiw, wedi dweud y bydd y cynllun yn cael “effaith ddrwg ofnadwy ar yr iaith.”

 “Dydi pobl Bodelwyddan ddim eisiau hyn. ‘Dw i heb glywed unrhyw un yn dweud eu bod nhw o’i blaid,” meddai Glyn Jones, Cadeirydd Rhanbarth Clwyd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360.

“Mi gaiff effaith ddrwg ofnadwy ar yr iaith. Bydd yr iaith yn fyw un ochr o’r A55 ac yn farw’r ochr arall”. 

Tai i bobol ddŵad

“Nid tai ar gyfer pobl leol yw’r rhain ond tai ar gyfer bobl Caer,” meddai Glyn Jones.

“Maen nhw’n dweud bod y boblogaeth yn cynyddu ond mae’r boblogaeth gynhenid, naturiol yn gostwng. Paratoi ar gyfer mewnfudo mae’r datblygiad.

“Ddim ar Fodelwyddan yn unig y bydd yr effaith iaith. Mi fydd hi’n symud y ffin ieithyddol 20 milltir i mewn ac i fyny’r Dyffryn,” meddai.

Y Cynllun

Mae Cynllun Datblygu Lleol y cyngor yn argymell codi 1,715 o dai, ysgol gynradd, cartref gofal yn y pentref, yn ogystal â lôn newydd i gysylltu Bodelwyddan gyda ffordd ddeuol yr A55.

Fe ddechreuodd ymgynghoriad ar y cynllun ym mis Hydref 2009 ac mae’r cyngor yn dweud bod y cynllun yn ceisio ateb y galw am brinder tai yn y sir.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn credu bod angen darparu 7,500 o gartrefi newydd erbyn 2021, er mwyn cwrdd ag anghenion yr ardal. Ond mae’r cynllun wedi ei wrthwynebu gan drigolion Bodelwyddan ac maen nhw wedi cynnal sawl protest.

Roedd Grŵp Gweithredu Datblygiad Bodelwyddan, a sefydlwyd i wrthwynebu’r cynllun, yn cynnal protest heddiw wrth i’r cynghorwyr fynd i’r cyfarfod.

Bydd y mater nawr yn cael ei gyfeirio at y Cynulliad a’r arolygwr cynllunio.