Machynlleth
Mae’r heddlu’n chwilio am dri dyn ar ôl lladrad ym mynedfa banc Barclays, Machynlleth cyn amser cinio heddiw.

Mae’n ymddangos eu bod wedi ymosod ar swyddog diogelwch o gwmni preifat wrth iddo gario arian i mewn neu allan o’r banc.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod “swm o arian” wedi’i ddwyn ond dydyn nhw ddim yn siŵr eto faint yn union.

“R’yn ni’n gwybod gan lygaid dystion bod y rhai oedd yn gyfrifol wedi mynd oddi yno mewn car BMW du, GY06 PHA,” meddai Shane Williams o’r Heddlu.

Defnyddio dau gar

Roedd y car wedi mynd i gyfeiriad Pont ar Ddyfi ac yna wedi mynd i’r dde a chael ei adael ym mhentref Llanwrin sydd rhwng Machynlleth a Glantwymyn.

“Yna, r’yn ni’n credu bod y criw wedi defnyddio Mercedes gwyn, BJ59 SVF. Mae’r cerbyd hwnnw wedi’i adael ger Canolfan Hamdden Flash yn y Trallwng,” meddai Shane Williams.

“Fe gafodd dau ddyn gwyn ac un du eu gweld yn rhedeg  i ffwrdd yn cario siwtiau ac r’yn ni’n credu efallai eu bod nhw’n dal i fod yn yr ardal.”

Perchnogion gwestai

Mae’r Heddlu’n apelio am wybodaeth gan berchnogion gwestai lleol neu lefydd gwely a brecwast, neu gan unrhyw un sy’n meddwl eu bod wedi gweld y bobol hyn neithiwr neu heddiw.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud eu bod nhw’n defnyddio pob adnodd posibl ac yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru ar yr achos.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth alw’r Heddlu ar 101.