Ben a Catherine Mullany
Mae ewythr Cymro a gafodd ei ladd ar ei fis mêl yn bwriadu seiclo bron i 200 milltir ar draws Cymru mewn llai na 24 awr er mwyn codi arian at elusen.
Cafodd y cyn-Heddwas Ben Mullany, 31 oed, a’i wraig Catherine eu saethu yn farw yn Antigua ychydig dros bythefnos ar ôl iddyn nhw briodi.
Mae’r teulu’n parhau i ddisgwyl am gyfiawnder, yn dilyn ansicrwydd ynglŷn â phryd y bydd dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio’r pâr priod yn wynebu llys.
Wrth i’r anghydfod cyfreithiol barhau, mae Michael Meredith, 58 oed, sydd wedi dioddef trawiad ar y galon yn y gorffennol, yn dechrau ar ei daith o Ynys Môn heddiw a’r bwriad yw seiclo 195 milltir o fewn diwrnod.
‘Caled iawn’
“Mae’r blynyddoedd diweddaraf wedi bod yn galed iawn i bawb oedd yn nabod a charu Ben a Cath,” meddai Michael Meredith, a fydd yn seiclo gyda chyfeillion.
“Rydyn ni’n parhau i ddisgwyl am gyfiawnder a dyw hynny ddim yn hawdd. Roedden nhw’n gwpwl hyfryd ac mae eu bywydau wedi eu cymryd oddi arnyn nhw – ar eu mis mêl hefyd.
“Roedd ganddyn nhw weddill eu bywydau o’u blaenau nhw – pen-blwyddi priodas, dechrau teulu …
“Ond gyrhaeddon nhw fyth adref a, lai na phedair wythnos ar ôl eu priodas, roedd fy mrawd a fy chwaer-yng-nghyfraith yn angladd eu mab. Ar ôl hynny mae popeth arall yn ddi-nod braidd.”
Yr her
Dywedodd y tad i ddau a thad-cu i un ei fod yn cymryd y daith gyda’i gyfeillion Terry Maloney, John Cole a Kelston Glover, o ddifrif.
Mae’r pedwar wedi bod yn ymarfer ers naw mis, gan fynd am deithiau “byr” 100 milltir o hyd, meddai.
Fe fyddan nhw’n teithio o Ynys Môn drwy Gaernarfon, Aberystwyth, Llandeilo, Rhydaman a Pontlliw cyn cyrraedd Gwesty’r Ddraig, Abertawe, lai na 24 awr ar ôl cychwyn.
Nid dyma’r daith gyntaf o’i math i Michael Meredith, sy’n dod o Bontllanfraith yn Sir Caerffili. Yn 2009 cerddodd ar hyd Clawdd Offa, o Gas-gwent i Brestatyn, mewn pum niwrnod.
Yna seiclodd yn ôl gyda’i gyfaill Terry Maloney sy’n 53 oed.
“Ar y pryd roeddwn i’n benderfynol o beidio â gwneud unrhyw beth o’r fath eto,” meddai Michael Meredith.
“Ond wrth i’r achos llys agosáu roeddwn i eisiau cwblhau un her arall er cof am Ben. Roedd yn berson iach a bywiog iawn ac fe fyddai wedi gwerthfawrogi’r her gorfforol.
“Mae nifer o bobol wedi bod yn hynod o garedig – sawl un nad oedd yn nabod Ben na Cath,” meddai.
“Wrth ddisgwyl am gyfiawnder rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu er mwyn eu cofio nhw.
“Mae’r elusen wedi ein cadw ni i fynd ac mae’n bwysig fod rywbeth da yn dod allan o’r trasiedi erchyll yma.”
Yr achos
Mae dau ddyn o Antigua ym Môr y Caribî wedi cael eu cyhuddo o ladd y cwpwl ifanc.
Ond mae Avie Howell a Kaniel Martin hefyd wedi eu cyhuddo o dair llofruddiaeth arall a’r disgwyl yn awr yw y bydd eu cyfreithwyr yn gofyn am drin y pum achos ar wahân.
Fe fydd cymaint â 70 o dystion yn cymryd rhan yn yr achos, gyda llawer yn gorfod teithio i’r ynys o wledydd eraill.