Cafodd bachgen pum mlwydd oed ei ladd a thri o bobl eraill eu hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhowys ddoe.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys i’r ddamwain ddigwydd tua 17.25 un filltir i’r gogledd o’r Trallwng ar yr A483.

Aed â thri o bobl i’r ysbyty, un ohonyn nhw mewn ambiwlans awyr. Does neb wedi cael eu henwi eto.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad ac yn apelio i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.