Alun Davies
 Mae Dirprwy Weinidog Amaeth newydd Llywodraeth Cymru  yn addo helpu a hyrwyddo ffermio.

“Dw i isio bod yn champion i ffermwyr Cymru ac i’r diwydiant amaeth,” meddai’r  Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.

Mae Aelod Cynulliad Blaenau Gwent yn dweud fod ganddo brofiad blaenorol yn y maes.

“Mae’n rhywbeth lle dw i wedi gwneud lot fawr  o waith yn y Cynulliad diwethaf felly dw i’n teimlo’n ddigon hyderus. Ma  gen i gefndir yn y maes felly dw i’n edrych ymlaen at yr her sydd yn ein gwynebu ni. Dw i isio bod yn champion i ffermwyr Cymru ac i’r diwydiant amaeth.”

CAP: angen chwarae teg

Mae  sawl her yn wynebu’r diwydiant  yn ystod y blynyddoedd nesaf,  yn  ôl Alun Davies.

“Ni gyd yn gwybod bod CAP reform ar y gorwel. Dw i eisiau sicrhau bod ni yn cael deal da ar gyfer ffermwyr Cymru ac rhywbeth sy’n gwneud lles i Gymru hefyd.”

Cydweithio fydd y ffordd ymlaen i’r Llywodraeth leiafrifol yn ôl Alun Davies. Mae’n dweud bod angen i Lafur “estyn mas” I ffermwyr sy’ wedi bod yn ddrwgdybus o’r blaid yn y gorffennol.

“Does gyda ni ddim mwyafrif yn y Cynulliad. Rydan ni’n gwybod hynny, mae pawb yn gwybod hynny. Felly ryda ni eisiau Llywodraethu trwy gonsensws gobeithio, trwy arwain ond ddim yn dominyddio. Felly mi fyddwn ni yn estyn mas i’r pleidiau gwahanol ac i bobl tu hwnt i’r Cynulliad.”