Llandudno
Mae dyn wedi marw ar ôl disgyn 75 troedfedd o glogwyn ger Llandudno.

Daethpwyd o hyd i gorff y dyn lleol, oedd yn ei 70au, gan hwylwyr amser cinio ddoe. Roedd wedi disgyn ar greigiau ar waelod clogwyn Pen-y-Gogarth.

Aethpwyd ag ef i Ysbyty Gwynedd ond fe fu farw.

Dywedodd Sefydliad Brenhinol y Badau Achub eu bod nhw wedi derbyn galwad gan wylwyr y Glannau Caergybi, oedd wedi cael gwybod am y corff gan yr hwylwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad Brenhinol y Badau Achub ei fod wedi disgyn o’r clogwyn ger caffi Rest and Be Thankful.