Carwyn Jones yw arweinydd y Blaid Lafur Gymreig.
Mae holl ganlyniadau etholiad y Cynulliad wedi eu cyhoeddi, gyda’r Blaid Lafur wedi cipio 30 sedd – pedair yn fwy na’r hyn gafon nhw yn etholiad 2007.
Mae gan y Ceidwadwyr ddwy sedd yn fwy o gymharu gyda 2007, sef 14 o seddi.
Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd y collwyr, gyda nifer seddi’r Blaid yn syrthio o 15 i 11, a’r Lib Dems yn cael pump.
Mae Carwyn Jones wedi dweud ei bod yn “anodd” ganddo weld unrhyw glymbelidio a bod Llafur am lywodraethu yn gwbwl annibynnol.