Helen Mary Jones
Mae Plaid Cymru wedi colli yn etholaeth Llanelli o 80 pleidlais.
Daeth Keith Davies o’r Blaid Lafur i’r brig gyda 10,359 o bleidleisiau, gyda Helen Mary Jones o Blaid Cymru yn denu 10,279 i fwrw croes drosdi.
Mi lwyddodd un o gyn-aelodau Plaid Cymru i ddenu 2,004 pleidlais. Roedd Sian Caiach yn ymgeisydd annibynnol yn Llanelli.
Mae Helen Mary Jones, sy’n wleidydd profiadol ac yn gyn-Ddirprwy Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, yn dweud fod angen i’w phlaid ddysgu gwersi o’u colledion neithiwr.
“Rwy’n siomedig – yn enwedig i fy nhîm gan eu bod nhw wedi gweithio mor galed,” meddai Helen Mary Jones.
“Mae Llafur wedi llwyddo i droi’r etholiad yn refferendwm ar beth mae’r Ceidwadwyr yn ei wneud yn San Steffan.
“Mae’n siomedig i ni. Fe fydd rhaid i ni ddysgu gwersi yn lleol ac yn genedlaethol.”