Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth ar ôl i rywun ddwyn bag hen wraig yn Llanrhymni.
Tua 10 fore ddoe, fe wnaeth dyn ddwyn bag canfas siopa du dynes 78 blwydd oed o Washford Avenue a rhedeg i ffwrdd. Roedd y ddynes yn mynd adref ar ôl siopa yn Countisbury Avenue.
Mae’r lleidr yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, pum troedfedd naw o daldra, tenau, yn ei ugeiniau cynnar, wedi eillio’n lân ac yn gwisgo siaced lwyd gyda hwd du.
Mae’r Heddlu’n credu fod y dyn yn gyfrifol hefyd am ddigwyddiad tebyg dair wythnos yn ôl, ddydd Mercher, 13 Ebrill.
Bryd hynny, roedd dynes 84 blwydd oed wedi mynd i’r swyddfa bost i gasglu arian ac yn cerdded hyd ffordd Bampton tua 11am pan wnaeth dyn ddwyn ei bag gan redeg i lawr y ffordd.
“Rydan ni’n cysylltu’r ddau ddigwyddiad oherwydd y lleoliadau agos, natur y drosedd a disgrifiad y dyn,” meddai.
Mae’r Heddlu’n parhau i edrych ar ddelweddau teledu cylch cyfyng o’r digwyddiad ac yn cynnal archwiliadau fforensig.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda’r Heddlu ar 029 2077 4252 neu gyda Thaclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.