Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth a thystion ar ôl i fam a merch fach chwech oed farw yn sgil damwain car ar ffordd Blaenau’r Cymoedd fore ddoe.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad angheuol rhwng dau gerbyd – Peugeot glas a Mercedes arian – rhwng Brynmawr a Gilwern ar yr A465 tua 11am.
Roedd y fam 35 oed a’r ferch chwech oed, o ardal Nantyglo, yn teithio yn y Peugeot glas, ac roedd y Mercedes arian yn cario dwy ddynes. Dynes 69 blwydd oed o Gilwern oedd gyrrwr y Mercedes.
Fe gafodd y cyfan o’r bobl eu cludo i Ysbyty Nevill Hall, lle bu farw’r ferch chwech oed yn fuan wedyn.
Aed a’r fam, a oedd wedi dioddef anafiadau pen difrifol i Ysbyty’r Heath, Caerdydd, yn ddiweddarach, lle bu farw heddiw.
Fe wnaeth y ddwy yn y Mercedes ddioddef man anafiadau.
Fe gafodd y ffordd ei chau i’r ddau gyfeiriad rhwng Gilwern a chylchfan Conoco ym Mrynmawr ac mae wedi’i ail agor heddiw.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 01633 642404.