Mae Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwrthdaro tros gynlluniau ar gyfer yr heddlu yng Nghymru.

Mae Llafur wedi gwrthod honiadau nad oes arian ar gael i dalu am eu haddewid nhw i dalu am 500 o swyddogion heddlu cymunedol ychwanegol.

Fe gyhoeddodd y Democratiaid dudalen o gyllideb Llywodraeth y Cynulliad er mwyn dangos, medden nhw, nad oedd yr arian wedi’i glustnodi.

Fe fydd yr addewid ym maniffesto’r Blaid Lafur yn costio £14 miliwn y flwyddyn ond, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, dim ond £11.7 miliwn sydd yn holl gyllideb yr adran Cymunedau Diogelach.

Mae’r gwario hwnnw’n cynnwys gwasanaethau tân a delio â thrais yn y cartref – fyddai dileu y rheiny hyd yn oed ddim yn ddigon i dalu am yr addewid, meddai ymgeisydd y Democratiaid yng Nghanol Caerdydd, Nigel Howells.

Llafur yn wfftio

Wfftio hynny yr oedd llefarydd Llafur. “Fe ddylai’r Rhyddfrydwyr wybod bod cyfraniad Llywodraeth y Cynulliad at awdurdodau heddlu’n dod o sawl cyllideb wahanol, gan gynnwys diogelwch y gymuned a llywodraeth leol.”

Fe fydd yr arian yn dod o gyllidebau sy’n bod eisoes trwy osod blaenoriaethau newydd, meddai, cyn ymosod ar y Democratiaid a oedd wedi addo cynyddu niferoedd yr heddlu ond sydd bellach yn rhan o Lywodraeth sy’n torri “1600 o swyddi heddlu” yng Nghymru.