Joe Lock - dymuno marwolaeth Margaret Thatcher
Dyw Ceidwadwyr Cymru ddim yn fodlon ar ymddiheuriad sydd wedi ei wneud gan un o ymgeiswyr y Blaid Lafur.

Mae Joe Lock, yr ymgeisydd Llafur ym Môn, wedi ymddiheuro wrth ei blaid ei hun, ond nid wrth bobol Cymru, meddai’r Torïaid heddiw.

Ond, fel yr oedden nhw’n parhau i feirniadu’r Llafurwr, roedd rhaid i un o’u hymgeiswyr nhwthau ymddiheuro am sylwadau sarhaus.

Fe ddaeth yn amlwg bod yr ymgeisydd Ceidwadol yng nghanol Caerdydd, Matt Smith, wedi cymharu plaid Respect yn Llundain gyda phedoffiliaid oherwydd eu bod yn defnyddio pobol ifanc i ymgyrchu.

Condemnio

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wedi condemio’r sylwadau a’r Ceidwadwyr yn dweud eu bod wedi ceryddu’r ymgeisydd.

Fel Matt Smith, roedd Joe Lock wedi gwneud ei sylwadau tramgwyddus yntau cyn cael ei ddewis yn ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad.

Ar wefan gymdeithasol Faceook roedd wedi dweud ei fod yn gobeithio y byddai Margaret Thatcher yn marw’n fuan a’i fod yn hoffi Ceidwadwyr “cyn belled â’u bod nhw ar flaen gwaywffyn”.

‘Afiach’

Heddiw, fe ddywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wrth Golwg360 eu bod yn parhau’n anfodlon.

“Mae’r sylwadau hyn yn afiach a sarhaus ac yn hynod amhriodol i unrhyw un sy’n chwilio am swydd etholedig,” meddai.

“Er ein bod yn nodi bod yr ymgeisydd dan sylw wedi ymddiheuro i’r Blaid Lafur, dyw e ddim wedi ymddiheuro i bobol Cymru am awgrymu y dylai llawer ohonyn nhw gael eu rhoi ar waywffyn.

“Does dim lle yng ngwleidyddiaeth Cymru ar gyfer casineb ideolegol neu ysgogi trais.”