Disgwyl newyddion da yn y Cae Ras
Mae  clwb pêl-droed Wrecsam  wedi cyhoeddi bod dyled dreth y clwb wedi ei chlirio am y tro.

Fe gadarnhaodd Ysgrifennydd y Clwb, Geraint Parry, wrth Golwg360 bod £200,000 wedi gadael y Cae Ras heddiw.

Erbyn cynnal cynhadledd i’r wasg y prynhawn yma, fe ddaeth cadarnhad ei fod wedi cyrraedd banc yr Adran Gyllid a Thollaua’u bod nwhthau’nrhoi’r gorau am y tro i geisio dirwyn y clwb i ben.

Gêmau ail gyfle

Mae hynny’n golygu y bydd Wrecsam yn gallu aros yn y gêmau ail gyfle ar ddiwedd tymor cynghrair y Blue Square.

Yn ôl Geraint Parry, y pecyn ariannol oedd y benthyciad yr oedd un o Is-lywyddion y clwb, John Marek, wedi bod yn ei drafod.

Heb yr arian yn llawn, fe fyddai’r Adran Gyllid wedi gwthio Wrecsam i ddwylo’r gweinyddwyr a hynny’n golygu eu bod yn cael eu hatal rhag chwarae yn y gêmau ail gyfle a’r posibilrwydd o ennill tua £1 miliwn wrth gael dyrchafiad.

Agos

Dros nos, y gred oedd fod y pecyn achub yn agos ond bod angen ychydig o waith eto i benderfynu ar y manylion.

Yn y cyfamser, mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn parhau gyda’u bwriad i geisio prynu’r clwb ac maen nhw wedi cyhoeddi rhestr o bump o egwyddorion i sicrhau ei ddyfodol.

Mae’r rheiny’n cynnwys cymryd agwedd realistig at incwm a maint tyrfaoedd a chefnogi aelodau o’r cefnogwyr a chyn reolwr ar fwrdd y clwb.