Heddlu De Cymru
Mae’r heddlu’n galw am wybodaeth ar ôl i ddyn gael ei ladd mewn damwain ar yr M4 neithiwr.
Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng tri cherbyd tua saith o’r gloch ar ochr orllewinol y draffordd ar y rhiw i fyny o Pencoed i gyfeiriad Sarn Parc.
Yn ôl Heddlu De Cymru, roedd fan camper Ford, tancer Volvo a cherbyd Isuzu’n rhan o’r gwrthdrawiad ar gyrion Penybont-ar-Ogwr.
Roedd y dyn 38 oed wedi marw yno ac fe aethpwyd â dyn arall i’r ysbyty wrth i’r lôn gael ei chau am bump awr.
Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu yng Ngwaelod y Garth ar 101 neu trwy Taclo’r Tacle ar 0800555111.