Ffion Wyn Roberts
Mae llawer o bobol Porthmadog yn dal i fethu credu mai Iestyn Davies laddodd Ffion Wyn Roberts.

Cafodd y gweithiwr ffatri wlân 54 oed ei ddedfrydu i o leia’ chwarter canrif dan glo yn Llys y Goron Caernarfon ddechrau’r wythnos, flwyddyn ers i gorff yr ofalwraig 22 oed gael ei ddarganfod mewn ffos, Y Cyt, rhyw 150 llath o’i chartref.

“Mae o wedi hollti’r dre’, fyswn i ddim yn dweud yn ei hanner, ond mae yna nifer sylweddol o bobol dw i’n ‘nabod, sy’n dal i feddwl bod Iestyn heb wneud dim,” meddai Phil Jones, gŵr busnes lleol a Chadeirydd y clwb pêl-droed, sy’n adnabod Iestyn Davies a theulu Ffion Wyn Roberts ers blynyddoedd lawer.

Elfen arall sydd wedi dychryn pobol Porthmadog yw maint y ddedfryd – 25 mlynedd o garchar cyn gallu cyflwyno cais am ryddid.

“Mae pawb wedi cael sioc enfawr efo hyn’na… dw i’n gwybod mae bob llofruddiaeth yn erchyll ac yn ddrwg. Ond mae yna rai llawer iawn mwy hyll, pobol wedi cael eu lladd mewn ffordd ofnadwy, a dydy’r bobol ddim yn cael gymaint â be’ mae Iestyn wedi’i gael,” meddai Phil Jones.

“Ac i feddwl bod y rheithgor wedi bod mor hir yn dod i benderfyniad, dw i’n meddwl fod hynny’n profi bod yna ddigon o amheuaeth yn eu meddyliau nhw, doeddan nhw ddim yn 100% mai Iestyn oedd wedi gwneud.”

“… mae yna lawer iawn o gwestiynau gan bobol Port sydd heb gael eu hateb.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 21 Ebrill