Yr Esgob George Stack
Mae’r Pab wedi penodi yr Esgob George Stack yn seithfed archesgob Caerdydd.

Bydd yr Esgob George Stack, sy’n esgob atodol yn San Steffan ar hyn o bryd, yn olynu’r Archesgob Peter Smith, benodwyd yn Archesgob Southwark, yn Llundain, y llynedd.

Dywedodd y dyn 64 oed ei fod yn “fraint” cael ei ddewis gan y Pab Bened XVI i gyflawni’r swydd newydd.

Cafodd ei eni yn Cork, Iwerddon, a’i ordeinio yn 1972. Cafodd ei benodi yn weinyddwr Eglwys Gadeiriol San Steffan yn 1993, ac yn esgob atodol yn 2001.

“Er fy mod i’n gorfod gadael Archesgobaeth San Steffan, rydw i’n edrych ymlaen at wasanaethu pobol a chlerigwyr yr Eglwys yng Nghaerdydd â chariad a ffyddlondeb dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.

“Rydw i’n ymwybodol o hanes hir a bonheddig Cristnogaeth yng Nghymru a cymaint y mae’r Celtiaid wedi ei roi i’r Eglwys.

“Rydw i’n gobeithio rhannu yn y traddodiad hwnnw.”

Diolchodd Vincent Nichols, Archesgob San Steffan, i’r Esgob George Stack am ei wasanaeth.

“Mae Esgobaeth Caerdydd yn un pwysig i Gymru a Chynhadledd yr Esgobion,” meddai.

“Mae’n braf gwybod y bydd y swydd yn cael ei gynnal gan un â chymaint o brofiad ac ymroddiad a’r Esgob George Stack.”