Protest ger carreg goffa Gwynfor Evans
Dyma’r cyfnod prysuraf o weithredu gan Gymdeithas yr Iaith ers y 70au a’r 80au, pan enillwyd y frwydr i sefydlu S4C.
Dyna farn Ffred Ffransis o’r mudiad, wrth i ymgyrchwyr iaith fynd i swyddfeydd arweinwyr y pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru er mwyn “cyflwyno neges frys am ddyfodol S4C”.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac undebau llafur wedi cadarnhau y byddwn nhw’n mynd i Langefni, Aberhonddu a Chaerdydd gan “alw ar i’r pleidiau yng Nghymru fynnu bod adolygiad llawn o’r sianel”.
Mae 24 mudiad gwahanol gan gynnwys NUJ, BECTU, Undeb y Cerddorion, Equity ac Undeb yr Ysgrifenwyr wedi ysgrifennu at y Llywodraeth yn galw arnynt i atal eu cynlluniau.
Mae’r Adran Diwylliant yn bwriadu tocio cyllideb S4C a’i ariannu’n rhannol o gyllideb trwydded teledu y BBC.
Ysgrifennodd arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru at David Cameron ym mis Tachwedd y llynedd gan alw am adolygiad llawn i’r sianel.
Brwydro ymlaen
“Drwy weithredu dro ar ôl tro mae sicrhau dyfodol i’r sianel,” meddai Ffred Ffransis wrth Golwg360.
“Dros y tri mis diwethaf rydyn ni wedi cynnal 20 o brotestiadau gwahanol er mwyn achub S4C.”
Dywedodd mai dyma’r cyfnod prysuraf o ymgyrchu yr oedd yn ei gofio ers 1973, pan gafwyd tri mis dwys o brotestio gan alw am sefydlu S4C.
“Roedd hi’n frwydr galed iawn er mwyn sefydlu S4C, ond fe allen ni ei cholli’n rhwydd,” meddai.
“Os nad yw’r gwaith caled yn parhau fe fyddwn ni’n bradychu ymdrech protestwyr ’73.”
Mae’r Gymdeithas wedi cynnal tair protest o fewn y pedwar diwrnod diwethaf, sef rali ym Mangor, taith gerdded o Garreg Goffa Gwynfor ger Bethlehem i stiwdio’r BBC yng Nghaerfyrddin, a mynd i swyddfeydd arweinwyr y pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru gan alw am adolygiad llawn o’r sianel.