Bradley Davies - sgoriwr y cais pwysig
Connacht 12 Y Gleision 26

Doedd dim angen gofyn – yr ail reng Bradley Davies a sgoriodd y cais tyngedfennol i roi buddugoliaeth bwysig i’r Gleision  yng Nhgynghrair Magners.

Ar ddiwedd wythnos pan gafodd ei arestio ar honiadau o fod â rhan mewn ffrwgwd yn Saundersfoot, fe lwyddodd  y chwaraewr rhyngwladol i ddefnyddio’i gryfder i groesi’r llinell yn y munudau ola’.

Cyn hynny, roedd y sgôr wedi pendilio’n ôl ac ymlaen gyda chiciau, er mai’r Gleision oedd wedi sgorio’r unig gais.

Fe ddaeth hwnnw tua chanol yr hanner cynta’ trwy ddewiniaeth Casey Laulala yn curo nifer o daclwyr.

Connacht oedd ar y blaen ar yr hanner o 12-10 ond fe wthiodd Dan Parks y Gleision i’r blaen gyda chyfres o giciau cosb.

Wedyn fe ddaeth cais Bradley Davies ar ôl rhagor o waith da gan Laulala. Ac mae’r Gleision yn parhau gyda gobaith o gyrraedd pedwar ola’r gynghrair.

Maen nhw’n gyfartal gyda Leinster ar bwyntiau ac o fewn dau i’r Gweilch, sy’n drydydd ac wedi chwarae un gêm yn fwy.