Canolfan waith
Mae gweithwyr canolfannau gwaith wedi penderfynu streicio am 24 awr, wythnos i ddydd Llun nesa’.
Maen nhw’n cwyno nad ydyn nhw’n cael y rhyddid i wneud eu gwaith yn iawn, a’u bod yn cael eu gorfodi i gadw at dargedau sydd ddim yn realistig.
Yn ôl Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, mae rheolwyr y canolfannau gwaith wedi gwrthod datrys y problemau.
Cafwyd streicio dros ddeuddydd fis Ionawr yn saith o ganolfannau cyswllt mwya’ newydd Jobcentre Plus, wrth i 2,000 o weithwyr gwyno eu bod yn gorfod rhoi’r gorau i brosesu ceisiadau am fudd-dal er mwyn delio gydag ymholiadau dros y ffôn.
Mae’r Undeb eisiau gwella gofal cwsmer yn y canolfannau galw a rhoi’r gorau i’r drefn o geisio taro targedau a chadw at gyfnod o amser penodol wrth ddelio gyda phobol dros y ffôn.
“Ryda ni’n cael ein llesteirio rhag darparu gwasanaeth o safon i’r cyhoedd oherwydd targedau canolfannau galw sy’n ddiangen ac yn afrealistig,” meddai Jane Aitchison o’r undeb.
Ond mae Adran Waith a Phensiynau’r Llywodraeth yn gwrthod y cwynion, ac yn dweud fod amodau gwaith staff y canolfannau gwaith yn dda a’u bod yn elwa o wyliau hael.
“Ryda ni’n defnyddio targedau mesur perfformiad er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn gynhyrchiol ac yn perfformio’n dda, fel ein bod yn rhoi gwerth am arian i’r trethdalwyr,” meddai llefarydd.