Edwina Hart
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi safonau newydd ar gyfer delio gyda chanser plant yng Nghymru.

Y prif nod, yn ôl y Gweinidog Iechyd, yw sicrhau bod trefn a chydgysylltu a digon o wybodaeth ar gael i’r teulu.

Fe fydd disgwyl i Fyrddau Iechyd wneud yn glir pwy’n union sy’n gyfrifol am driniaeth ar wahanol adegau a pha ysbyty neu ganolfan ganser fyddai’n fwya’ addas.

Mae cyfartaledd o bron 100 o blant o dan 15 oed wedi bod yn cael canser yng Nghymru yn ystod y 15 mlynedd diwetha’, gyda’r rhan fwya’n dioddef o  liwcemia neu ganser y system nerfau.

“Mae canser, yn arbennig ymhlith plant, yn salwch sy’n cynhyrfu’r emosiynau,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart.

“Trwy atal, diagnosis cyflym a thriniaeth byddwn yn lleihau’r effaith y mae canser yn gallu’i gael ar unigolion, teuluoedd a ffrindiau.

“Mae rhagor o bobol bellach yn byw trwy ganser ac yn byw’n hwy nag erioed o’r blaen ond rhaid i ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.”