Klaus Armstrong-Brau
Mae un o gynghorwyr Sir y Fflint yn pryderu am ddiogelwch cerddwyr ar ôl i siafft hen bwll glo agor ger llwybr cerdded yno.

Dywedodd Klaus Armstrong-Brau, cynghorydd pentref Saltney ger y ffin â Lloegr, ei fod o am gwyno’r swyddogol i’r cyngor gan ddweud mai eu cyfrifoldeb nhw ydi sicrhau fod yr ardal yn saff.

Mae’r cyngor yn mynnu fod y twll ar dir preifat a’u bod nhw’n ffyddiog na fydd neb yn disgyn i mewn.

“Maen nhw yn gyfrifol am lwybrau troed cyhoeddus a gwneud yn siŵr nad yw pobl mewn perygl,” meddai Klaus Armstrong-Brau am y twll sydd wedi agor ger Cilcain.

“Mae gan y cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i gywiro’r peth,” meddai cyn ychwanegu na fydd “darn o weiren yn ddigon da”.

“Bu bron i mi ddisgyn i mewn wrth geisio tynnu llun o’r siafft,” meddai, cyn dweud ei fod yn amcangyfrif fod y twll rhwng 50 a 100 troedfedd o ddyfnder.

‘Saff’

Dywedodd Cyngor Sir y Fflint wrth Golwg360 nad nhw sy’n berchen ar y darn tir a bod ffens wedi’i osod o’i amgylch gan y perchnogion.

“Rydyn ni’n hapus ei fod o’n saff. Darn o dir preifat ydi o,” meddai’r llefarydd wrth Golwg360.

Ychwanegodd nad oedden nhw’n gwybod pwy yw’r perchnogion.

Cwyn

“Dw i am wneud cwyn ffurfiol i’r Prif Weithredwr am y swyddogion sydd â chyfrifoldeb i wneud yr ardal yn saff,” meddai Klaus Armstrong-Brau.

“Mae’n bosib fod y cyngor yn torri’r gyfraith drwy beidio gwneud yn siŵr fod y safle’n saff.

“Dw i’n meddwl ei fod yn warthus nad ydi’r Cyngor am ddiogelu pobl.”