Yr atomfa bresennol yn Wylfa
Mae’r argyfwng yn Japan yn golygu ei bod yn llai tebygol y bydd atomfa newydd yn cael ei chodi yn Wylfa, yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog.
Papur y Daily Telegraph sy’n cario’r stori am sylwadau Nick Clegg sy’n codi amheuaeth tros holl raglen niwclear y Llywodraeth.
Fe ddywedodd wrth newyddiadurwyr bod arolwg o atomfeydd yn debyg o alw am safonau uwch a drutach a bod y ddamwain niwclear yn Japan yn golygu y bydd busnesau’n llai parod i fuddsoddi mewn atomfeydd.
Mae Wylfa yn Ynys Môn yn un o wyth safle ar draws gwledydd Prydain lle mae caniatâd mewn egwyddor i godi gorsafoedd niwclear newydd – dau arall yw Olsbury a Hinkley Point ar lannau afon Hafren gyferbyn â de Cymru.
O dan gytundeb Llywodraeth y Glymblaid yn Llundain, fydd dim rhagor o arian cyhoeddus yn mynd i dalu am y genhedlaeth nesa’ o atomfeydd.
Y gred yw y byddai’r rheiny yn costio tua £50 biliwn yr un.