Un o drenau Arriva Cymru
Mae anhrefn ar wasanaethau trên ar draws de Cymru ar ôl problemau mawr gyda chyflenwadau trydan. Mae’r rheiny wedi effeithio ar signalau a chroesfannau.
Mae degau o filoedd o bobol wedi eu dal ar drenau ac mae’r holl wasanaethau sy’n mynd trwy Gaerdydd ar stop.
Yn ôl cwmni Trenau Arriva Cymru, roedd hwrdd o drydan wedi torri’r cyflenwad arferol a pheiriannau wrth gefn.
Mae gwefan y cwmni’n dangos bod “oedi difrifol” ar yr holl wasanaethau yn yr ardal ac maen nhw’n cynghori pobol i beidio â cheisio mynd ar drên.
Mae’r cwmni’n ceisio trefnu gwasanaethau bws brys a symud trenau sydd wedi eu dal rhwng gorsafoedd.
Mae cwmni Western Power yn gweithio ar geisio adfer y cyflenwad trydan.
Oriau o aros
Yn ôl pobol sydd wedi galw’r BBC, mae’r rhwystrau ar groesfan Sain Ffagan ger Caerdydd wedi aros ar gau – mae’n ffordd brysur sy’n cael ei defnyddio gan draffig sydd ar eu ffordd i mewn i’r brifddinas ar adegau prysur.
Fe ddywedodd pennaeth gweithrediadau’r cwmni wrth Radio Wales bod tua 30 o drenau wedi’u dal ac fe allai gymryd oriau cyn y bydd y gwasanaeth yn ôl i’r arfer.
Mae trenau o Lundain i dde Cymru ar hyn o bryd yn dod i ben yng Nghasnewydd.