Dim disgo i ddathlu priodas William
Mae llefarydd ar ran Ysgol Gynradd Ffynnonbedr yn Llanbedr Pont Steffan wedi gwadu eu bod nhw’n bwriadu cynnal disgo i ddathlu’r Briodas Frenhinol fis nesaf.

Roedd adroddiad ym mhapur newydd y Camarthen Journal yn awgrymu fod Cyngor Tref Llanbed wedi trefnu disgo i blant yr ysgol er mwyn dathlu priodas y Tywysog William a Kate Middleton.

Yn ôl yr erthygl roedd Cyngor y Dref yng nghefn gwlad Ceredigion wedi bwriadu rhoi mygiau i’r plant er mwyn dathlu’r achlysur, ond wedi penderfynu y byddai hynny rhy ddrud – a phenderfynu trefnu disgo yn lle.

Ond dywedodd Llinos Jones, Dirprwy Ysgol Gynradd Ffynnonbedr, wrth Golwg360 heddiw nad disgo i ddathlu’r briodas frenhinol yw’r disgo sydd wedi’i drefnu ar gyfer y plant yr wythnos cyn y Pasg .

“Mae’r Cyngor Tref yn trefnu disgo, pop a chreision i blant yr ysgol bob blwyddyn,” meddai cyn dweud nad oes gan y digwyddiad eleni “unrhyw beth i wneud â’r briodas frenhinol”.

“Dy’n ni ddim yn bwriadu dathlu unrhyw  beth fan hyn,” meddai . “Disgo cyffredin fydd hi i’r plant – fel bob blwyddyn arall”.