Bathodyn Heddlu Gwent
Mae ymchwiliad Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi penderfynu nad oedd yr heddlu ar fai am farwolaeth dyn digartre’ – er iddi gymryd mwy na thair awr iddyn nhw ymateb i alwad am help.

Roedd siopwr wedi galw Heddlu Gwent at Graham Howard, 53 oed, ar ôl ei weld yn gorwedd ar fainc am oriau tua 11.30 un nos ym mis Medi’r llynedd.

Erbyn i’r heddlu gyrraedd am chwarter i dri y bore, roedd Graham Howard wedi marw – er bod yr alwad wedi’i nodi’n un a ddylai gael ei thrin o fewn awr.

Ond fe benderfynodd Comisiynydd Cwynion Annibynnol yr Heddlu tros Gymru bod yr ymateb yn rhesymol o gofio’i bod yn nos Sadwrn brysur.

Roedd Crwner Gwent hefyd wedi penderfynu ym mis Chwefror bod Graham Howard wedi marw o achosion naturiol ac nad oedd yr heddlu ar fai.

“Fyddwn ni byth yn gwybod os oedd Graham Howard dal yn fyw pan gafodd yr Heddlu eu galw am 11.30pm,” meddai’r Comisiynydd, Tom Davies.

“Fodd bynnag, roedd yn ddydd Sadwrn prysur iawn ac roedd yr  heddlu’n canolbwyntio ar ddelio â galwadau brys … Mae’n achos hynod ddigalon ac rwy’n cydymdeimlo â ffrindiau a theulu Graham Howard,” meddai.