Andrew Symeou
Mae achos llys yn erbyn dyn o Lundain sydd wedi’i gyhuddo o ladd Cymro ifanc pan oedd ar wyliau yng Ngwlad Groeg wedi cael ei ohirio unwaith eto.

Mae Andrew Symeou o Enfield yn Middlesex wedi cael ei gyhuddo o daro Jonathan Hiles, 18, o Gaerdydd.

Yr honiad yw ei fod wedi taro’r Cymro oddi ar lwyfan mewn clwb nos ar ynys Zakinthos ym mis Gorffennaf 2007.  Bu farw Jonathan Hiles o’i anafiadau yn hwyrach yn yr ysbyty.

Mae Andrew Symeou yn gwadu ei fod yn y clwb adeg y digwyddiad.  Mae wedi cael ei gyhuddo o achosi anafiadau marwol- trosedd sy’n gallu arwain at o leiaf bum mlynedd o garchar.

Fe gafodd ei orfodi i fynd i Wlad Groeg ar ôl cael ei arestio dan Warrant Ewropeaidd ym mis Gorffennaf 2009.

Streic

Mae’r achos, sy’n cael ei gynnal yn nhref Patras, eisoes wedi cael ei ohirio ddwywaith.

Roedd yr achos i fod i ddechrau heddiw ond mae cyfreithwyr Gwlad Groeg ar streic.

Y llynedd roedd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi cyfarfod gyda teuluoedd y ddau ddyn ifanc wrth iddyn nhw alw am brysuro’r achos.

Mae yna ymgyrch wedi ei sefydlu i gefnogi Andrew Symeou – mae ei gefnogwyr yn dadlau nad oedd yn y clwb nos ar y pryd a bod tystion wedi cael eu gorfodi i wneud datganiadau.