Stafell newyddion y New York Times
Mae pedwar newyddiadurwr  o bapur y New York Times – gan gynnwys un o wledydd Prydain – wedi diflannu yn Libya.

Dyw golygyddion ddim wedi clywed oddi wrth yr un ohonyn nhw ers dydd Mawrth pan oedden nhw’n dilyn stori am y gwrthryfelwyr yn cilio o dref Ajdabiya.

Ymysg y pedwar sydd ar goll mae Stephen Farrell sydd â dinasyddiaeth Brydeinig a Gwyddelig ar y cyd ac a oedd wedi diflannu o’r blaen pan gafodd ei herwgipio gan y Taliban yn Afghanistan yn 2009.

Brd hynny, fe gafodd ei achub gan luoedd Prydain.

Cipio

Fe ddywedodd golygydd gweithredol y New York Times, Bill Keller, bod swyddogion yn Libya yn ceisio dod o hyd i’r newyddiadurwyr.

Yn ôl y papur, mae yna adroddiadau sydd heb eu cadarnhau bod y pedwar wedi cael eu dal gan luoedd Muammar Gaddafi.

Os yw hynny’n wir, maen ymddangos bod Llywodraeth Libya wedi addo’u rhyddhau ac mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio Libya i beidio â’u niweidio.

Y tri arall yw Anthony Shadid, sydd wedi ennill y wobr Pulitzer am ei waith, a’r ffotograffwyr Tyler Hicks a Lynsey Addario.