Llys y Goron Caerdydd
 Mae dynes wedi’i chael yn euog o wneud galwad ffôn ffug am fom yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd.

Roedd Deirdre Murphy, 63, o roi gwybodaeth ffug ond fe’i cafwyd yn euog gan reithgor yn dilyn achos yn Llys y Goron Caerdydd.

Clywodd y llys bod yr alwad ffôn wedi cael ei gwneud ar 28 Mawrth pan oedd y digwyddiad Caffael Amddiffyn, Ymchwil, Technoleg a Gallu Allforio (DPRTE), sy’n cael ei adnabod fel y ffair arfau, yn cael ei gynnal yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd.

Clywodd y llys bod Deirdre Murphy wedi gwneud yr alwad gyntaf i Heddlu De Cymru am 10.43yb o flwch ffôn yn y ddinas.

Cafodd yr ail alwad ffôn ei gwneud i Media Wales am 11.21yb o flwch ffôn y tu allan i McDonald’s ar Stryd y Frenhines.

Yn yr alwad ffôn, roedd i’w chlywed yn dweud ei bod yn aelod o Radical Action Against War a’u bod wedi gosod bom yn Arena Motorpoint.

Cafodd yr arena ei chwilio am unrhyw becynnau amheus ond ni ddaeth yr heddlu o hyd i unrhyw beth.

Cafodd Deirdre Murphy o Stryd Rhondda, Abertawe ei harestio am 2.30yp ar amheuaeth o wneud galwad ffug ynglŷn â bom.

“Troseddau rhyfel”

Roedd hi wedi derbyn ei bod wedi gwneud y galwadau ond yn gwadu rhoi gwybodaeth ffug yn fwriadol.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Deirdre Murphy mai ei bwriad oedd ceisio atal y ffair arfau a’i bod eisiau esbonio ei chymhelliad dros wneud y galwadau ffôn.

Dywedodd wrth y rheithgor ei bod yn teimlo bod “troseddau rhyfel yn cael eu cyflawni yn Arena Motorpoint y diwrnod hwnnw.”

Clywodd y llys ei bod wedi ymgyrchu yn erbyn rhyfel a masnachu arfau ers nifer o flynyddoedd.

Mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu yfory.