Mae papur bro Yr Wylan wedi cyhoeddi rhifyn arbennig y mis hwn, er mwyn dathlu deugain mlynedd ers ei lansiad.

Ers 1977 bu’r papur yn gwasanaethu Penrhyndeudraeth, Porthmadog a Beddgelert; ac mae’n debyg bod 700 copi yn cael eu hargraffu bob mis.

I ddathlu, mae’r Wylan wedi gosod atodiad lliw tu fewn i’r rhifyn diweddaraf gyda delwedd o Bont Briwet ar ei glawr.

Mae’r atodiad yn cynnwys cyfraniadau gan gyn-olygyddion a hen luniau o bethau sydd bellach wedi diflannu o’r ardal – ffatrïoedd, sinemâu, siopau ac ati.

Hefyd mae copi hanner tudalen o neges gan olygydd cyntaf Yr Wylan o rifyn cyntaf y papur, wedi ei gynnwys.