Hen fwyngloddiau copr Mynydd Parys gerllaw Amlwch
Fe fydd profion llygredd tir yn cael eu cynnal ar hen safle diwydiannol ym Môn lle mae stad o dros gant o dai.

Cafodd y stad yn Amlwch, Craig-y-Don, ei hadeiladu yn gynnar yn yr 1950au ar dir lle bu gweithfeydd smeltio copr yn y gorffennol.

Er bod Cyngor Sir Fôn wedi sicrhau trigolion y stad nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd o unrhyw lygredd yn y tir, dywed fod cyfrifoldeb arno i asesu safloedd lle gallai gweithgareddau yn y gorffennol fod wedi achosi llygredd.

Fe fydd samplau pridd yn cael eu cymryd o erddi trigolion y stad dros y misoedd nesaf, yn dilyn cais llwyddiannus gan y Cyngor am arian gan Raglen Cyfalaf Tir Halogedig Llywodraeth Cymru.

“Nod yr arolwg ydi sicrhau nad yw’r tir wedi’i lygru gan ddefnyddiau diwydiannol y gorffennol,” meddai Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Llinos Medi.

“Gyda chydweithrediad trigolion, bydd yr holl erddi ac ardaloedd amwynderau sy’n berchen i’r Cyngor yn cael eu hasesu yn ystod Rhagfyr ac Ionawr. Rydan ni’n disgwyl y bydd yr adroddiad yn amlinellu’r canlyniadau yn barod tua Mawrth 2018.

“Dw i’n deall y bydd hyn yn codi pryderon ymysg trigolion, ond hoffwn eu sicrhau y bydd y Cyngor Sir yn gwneud popeth yn ei allu i roi cefnogaeth ac arweiniad priodol hyd nes bod y mater yma’n cael ei ddatrys.”